Cynnig Cyngor Celfyddydau Cymru fwrsari i bedwar person sydd megis cychwyn ar eu gyrfa marchnata’r celfyddydau sy’n golygu y gallent fynychu’r gynhadledd am £100 + TAW (heb gynnwys teithio a llety).
I fod yn gymwys am fwrsari, rhaid i chi fod yn gweithio yng Nghymru, rhaid i chi fod o fewn pum mlynedd cyntaf eich gyrfa marchnata’r celfyddydau, a heb fod wedi mynychu cynhadledd AMA o’r blaen. Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sy’n gweithio mewn sefydliadau celfyddydol llai.
Asesir ceisiadau yn ôl y meini prawf canlynol:
Ymroddiad y gellir ei arddangos i ddatblygiad proffesiynol
Ymroddiad y gellir ei arddangos i farchnata’r celfyddydau a datblygu cynulleidfa
Yr effaith gadarnhaol o fynychu’r gynhadledd ar ddatblygiad personol a phroffesiynol yr ymgeisydd
Profiad gwaith perthnasol
Dyddiad cau ceisiadau yw Iau 21 Ebrill 2011
Am ffurflen gais, e-bostiwch: helen@a-m-a.co.uk