Gwaith Enillwyr Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol dros y deng mlynedd diwethaf yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod dathliadau ei phen-blwydd yn 10 oed Drwy ymdrechu, fel arfer, i arddangos y gorau o Gymru i’r byd, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal arddangosfa arbennig fel rhan o’i dathliadau pen-blwydd yn 10 oed, gan arddangos gwaith y rheini a enillodd Fedalau Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol am Gelfyddyd Gain a Chrefft a Dylunio. Gyda’r enw priodol ‘Aur’, bydd yr arddangosfa amrywiol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r lleoliad crefftau cyfagos, Crefft yn y Bae rhwng 18 Ionawr a 16
Mawrth 2014, yn cynnig gwir ddathliad o gelf yng Nghymru ar ddechrau’r 21ain ganrif.

Mae’r arddangosfa yn gydweithrediad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Urdd y Gwneuthurwyr a’r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd gwaith 10 o artistiaid celfyddyd gain a enillodd y fedal aur yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a bydd Crefft yn y Bae hefyd yn arddangos gwaith crefft 10 o grefftwyr a enillodd y fedal aur, fel rhan o arddangosfa sy’n argoeli i fod yn un o’r radd flaenaf.

Mae’n werth nodi enillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cylch eleni am Gelfyddyd Gain, Josephine Snowdon. Cafodd gwaith Josephine ei arddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am y tro cyntaf yn ystod yr arddangosfa Graddedigion 2012, a thrwy’r arddangosfa honno y clywodd Josephine gyntaf am Y Lle Celf, sef yr arddangosfa agored ar gyfer y celfyddydau gweledol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ble gall artistiaid gyflwyno eu gwaith, gyda’r darnau gorau yn cael eu dyfarnu gan banel. Pan gyflwynodd ei gwaith i’r arddangosfa agored eleni, aeth Josephine yn ei blaen i ennill y Fedal Aur glodwiw.

Mae nifer sylweddol o’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn yr arddangosfa ‘Aur’ wedi mynd ymlaen i gasglu rhagor o wobrau anrhydeddus o ganlyniad i’w llwyddiant yn yr Eisteddfod. Mewn Celfyddyd Gain, mae rhai wedi ennill Gwobr Gelf Hunting a Gwobr Jerwood. Mae eraill wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr gelf ryngwladol Artes Mundi. Mae sawl un, gan gynnwys Bedwyr Williams a Peter Finnemore, wedi cynrychioli Cymru yn Biennale Celfyddydau Fenis. Mae nifer o enillwyr y Fedal Aur ar gyfer gwaith Crefft a Dylunio wedi cynrychioli Cymru yn SOFA (Cerflunwaith, Gwrthrychau, Celf + Dylunio Gweithredol) yn yr UDA. Mae llawer hefyd wedi cynrychioli Cymru yn rheolaidd yn y ffair gelf ryngwladol ar gyfer gwrthrychau cyfoes, ‘Collect’, yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain. Meddai Louise Miles-Crust, Pennaeth Rhaglennu: ‘Rydym yn falch iawn o gael gweithio ar yr arddangosfa newydd unigryw hon yn ein degfed blwyddyn, gydag Urdd y Gwneuthurwyr ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Dyma’r tro cyntaf i’r artistiaid a’r gwneuthurwyr hyn ddangos eu  gwaith gyda’i gilydd mewn un arddangosfa, ac rydym wedi cyffroi yn fawr gan y safon uchel a’r amrywiaeth yn y gwaith a ddangosir. Mae Aur wir yn dangos y gorau o’r hyn sydd gan gelf a chrefft Cymru i’w cynnig i’r Byd.’

“Sut gwell i ddathlu dengmlwyddiant?” meddai Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol, Robyn Tomos. “ Rwy’n siŵr y bydd y cyhoedd yn cael ei wefreiddio gan y fath arddangosfa a bydd y sioe yn fodd i ysbrydoli artistiaid, hen ac ifanc, i gyfranogi yn Arddangosfa Agored yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf.”

Ystyrir Y Lle Celf, sef Arddangosfa Agored yr Eisteddfod, yn un o binaclau calendr y celfyddydau gweledol yng Nghymru, gan anelu at anrhydeddu rhagoriaeth a dathlu ymrwymiad, gweledigaeth ac arloesed ymarferwyr y celfyddydau gweledol cyfoes yng Nghymru. Er bod Y Lle Celf yn cynnig cipolwg o weithgaredd y celfyddydau gweledol yng Nghrymu i’r byd heddiw, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cynnal arddangosfa ‘Celf a Chrefft’ ers 1865 – sy’n hŷn na Gorsedd y Beirdd a’i rhwysg. Mae’r Medalau Aur ymhlith yr ychydig wobrau cenedlaethol a roddir i artistiaid a gwneuthurwyr Cymru.

Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 18 Ionawr a 16 Mawrth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Crefft yn y Bae.

News,Updates & Events

Sign up to get the latest happenings at Arts Wales 

Your details have been added to our mailing list. Welcome!

Pin It on Pinterest

Share This

Share The Love

Share this post with your friends!