Heddiw lansia’r Cyngor apêl am ffotos ac atgofion o haf 1977 yng Nghymru.
Datgelir storïau a chyfrinachau’r genedl yn arddangosfa’r Cyngor yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Wrecsam eleni.
Allwch chi ein helpu gyda’ch atgofion? Cyfrannwch eich profiadau at ein dathliad o 1977 a ddigwydd yn yr Eisteddfod (30 Gorffennaf-6 Awst 2011).
Os oes gennych ffotos neu gardiau post neu greiriau diddorol o 1977, anfonwch hwy at:
Ann Wright
Swyddog Dylunio a Chyhoeddiadau
Cyngor Celfyddydau Cymru
Plas Bute
Bae Caerdydd
CF10 5AL
Neu ebostiwch nhw at ann.wright@celfcymru.org.uk
Gwnawn gopïau o’r ffotos a ddefnyddiwn yn yr arddangosfa, felly ysgrifennwch eich enw a’ch cyfeiriad ar gefn pob ffoto fel y gallwn eu dychwelyd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Siân James, Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau, Cyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1344 neu e-bostiwch sian.james@celfcymru.org.uk