Mae bwrsarïau ar gael yn awr ar gyfer artistiaid a lleoliadau celf i rwydweithio a rhannu profiadau gydag artistiaid ledled y Deyrnas Unedig yng Nghynhadledd Ddwyflynyddol Rhwydwaith Celf Stryd Annibynnol, yn yr Hippodrome yn Birmingham ar 20-21 Tachwedd 2013.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener 1 Tachwedd 2013
Mae’r bwrsarïau hyn yn rhan o fenter ‘Antur yn yr Awyr Agored’ Articulture — cyfres o gyfleoedd newydd sy’n ceisio sbarduno creu celf awyr agored arloesol o safon uchel yng Nghymru.
Darperir y bwrsarïau gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ISAN a Creu Cymru.
Ymgeisio am Fwrsari Artist. Am fanylion ewch yma – www.articulture-wales.co.uk.
Ymgeisio am Fwrsari Lleoliad Celf. Cysylltwch â Creu Cymru am fanylion yma – www.creucymru.co.uk