Rydym yn awyddus i glywed eich barn am ein cynigion fel y gallwn eu hystyried wrth ddatblygu’r gronfa. Mae sawl ffordd i chi wneud hyn:
 
1)      Anfonwch ymateb i ymateb@celfcymru.org.uk
2)      Trafodwch yr ymgynghoriad hwn yn ein fforwm http://cyngorcelfyddydaucymru.fforymaurhadacamddim.org/index.php
3)      Dewch i un o’n cyfarfodydd ymgynghori (manylion isod)
4)      Os hoffech gael sgwrs bersonol, cysylltwch â Jennifer Stoves, Swyddog Prosiect, ar Jennifer.Stoves@celfcymru.org.uk neu ffoniwch 02920 441341
 
Manylion cyfarfodydd ymgynghori
Cynhelir y cyfarfodydd canlynol yn ein swyddfeydd rhanbarthol:
 
Dydd Llun 31 Ionawr    1?3pm                                     Swyddfa’r Canolbarth a’r Gorllewin
6 Gardd Llydaw
Lôn Jackson
Caerfyrddin
SA31 1QD
 
 
Dydd Mawrth 1 Chwefror   2?4pm                           Swyddfa’r De
Plas Bute
Caerdydd
CF10 5AL
 
Dydd Mercher 2 Chwefror 2-4pm                             Swyddfa’r Gogledd 
36 Rhodfa?r Tywysog
Bae Colwyn
LL29 8LA
 
Dim ond nifer cyfyng a all ddod i’r cyfarfodydd, felly cadwch le drwy gysylltu â Jennifer Stoves cyn dydd Gwener 21 Ionawr. Bydd cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ym mhob cyfarfod ac mae’n swyddfeydd yn hygyrch o ran mynediad. Os oes arnoch angen unrhyw gefnogaeth gyfathrebu, rhowch wybod i ni wrth gadw lle.

News,Updates & Events

Sign up to get the latest happenings at Arts Wales 

Your details have been added to our mailing list. Welcome!

Pin It on Pinterest

Share This

Share The Love

Share this post with your friends!